P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.
Geiriad y Ddeiseb
Mae’r Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod wedi cael llif o
alwadau am gymorth gan aelodau pryderus o’r cyhoedd,
perchnogion ceffylau a’r heddlu ynghylch ceffylau sydd
wedi’u gadael, eu hesgeuluso neu sydd wedi’u hanafu.
Mae nifer ohonynt wedi eu hanafu wrth iddynt grwydro ar ein ffyrdd
sy’n beryglus iawn i fodurwyr.
Does dim microsglodyn gan yr un o’r ceffylau hyn – sydd wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ar ebolion ac ebolesau sydd wedi’u geni ar ôl mis Gorffennaf 2009 – sy’n golygu nad yw hi’n bosibl olrhain perchnogion y ceffylau. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod microsglodion yn cael eu defnyddio a bod pasbortau gan geffylau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddfwriaeth 2009.
Linc i’r ddeiseb: http://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/petitions_under_consideration.htm
Cynigwyd gan: Y Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod
Nifer y llofnodion: 2114
Y wybodaeth ddiweddaraf: Bydd y Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.